14 Cyfeiriadau ar gyfer infograffig ar ddechrau'r bennod: "Mae tystiolaeth yn dangos bod gwaith priodol yn dda i'n hiechyd" Ffynhonnell: Waddell G, Burton AK. Is work good for your health and wellbeing; 2006. “Mae salwch ymhlith pobl o oedran gweithio yn costio £100 biliwn y flwyddyn i'r economi mewn absenoldeb oherwydd salwch ac yn costio cyflogwyr £9 biliwn y flwyddyn". Ffynonellau: Adran Gwaith a Phensiynau a'r Adran Iechyd, Pecyn Data Papur Gwyrdd Gwaith, Iechyd ac Anabledd; 2016 and Black C, Frost C. Health at work - an independent review of sickness absence; 2011. “Mae lleihau absenoldeb salwch tymor hir yn flaenoriaeth. Mae 1.8 miliwn o weithwyr ar gyfartaledd yn cael absenoldeb salwch tymor hir am bedair wythnos neu fwy mewn blwyddyn”. Ffynhonnell: Adran Gwaith a Phensiynau a'r Adran Iechyd, Pecyn Data Papur Gwyrdd Gwaith, Iechyd ac Anabledd; 2016. “Dim ond tua 3 o bob 100 o'r holl hawlwyr Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gadael y budd-dal bob mis”. Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau. Work and Pensions Longitudinal Study, DWP Tabulation Tool February 2016. http://tabulation-tool.dwp.gov.uk/100pc/esa/tabtool_esa.html. “Mae 8% o gyflogwyr yn dweud eu bod wedi recriwtio rhywun ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor dros flwyddyn”. Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau. Employer Engagement and Experience Survey; 2013. “Mae mynediad i driniaeth amserol yn amrywio ar draws ardaloedd. Gall amseroedd aros ar gyfartaledd ar gyfer triniaeth iechyd meddwl gwahaniaethu cymaint â 12 wythnos ar draws Lloegr ac mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu y gall triniaeth ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol gwahaniaethu cymaint â 23 wythnos”. Ffynhonnell: Adran Gwaith a Phensiynau a'r Adran Iechyd, Pecyn Data Papur Gwyrdd Gwaith, Iechyd ac Anabledd; 2016 a'r Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi. Stretched to the limit; 2012. “Mae'r disgwyliad oes heb anabledd adeg geni hefyd yn amrywio ar draws Lloegr. Mae'r disgwyliad oes heb anabledd adeg geni mewn awdurdodau lleol haen uchaf yn Lloegr yn ymestyn o 55 i 72 mlynedd ar gyfer Dynion a 53 i 72 oed ar gyfer Merched yn 2012-2014”. Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol. Disability-Free Life Expectancy (DFLE) and Life Expectancy (LE) at birth by Upper Tier Local Authority, England, 2012 to 2014; 2014. “Mae anabledd wedi bod yn codi - dros 400,000 o gynnydd yn y nifer o bobl oedran gweithio anabl yn y DU ers 2013, gan gymryd y cyfanswm i fwy na 7 miliwn". Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol. Labour Force Survey, C2 2016; 2016. “O'i gymharu â phobl nad ydynt yn anabl, mae pobl anabl yn llai tebygol o ddechrau cyflogaeth, felly mae eu hatal rhag gadael gwaith yn bwysig. Rhwng dau chwarter mae cymaint â 150,000 o bobl anabl yn gadael cyflogaeth”. Ffynhonnell: Adran Gwaith a Phensiynau a'r Adran Iechyd, Pecyn Data Papur Gwyrdd Gwaith, Iechyd ac Anabledd; 2016. “Mae'r bwlch cyflogaeth anabledd yn rhy eang. 80% o bobl o oedran gweithio nad ydynt yn anabl sy'n gweithio o'i gymharu â 48% o bobl anabl. Mae hyn yn arwain at fwlch cyflogaeth anabledd o 32 pwynt canran”. Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Labour Force Survey, C2 2016; 2016.